FAQs
Ydi'n bosib cael het wedi'w haddasu?
Dwi bob tro yn barod i drafod syniadau, boed hynny yn liwiau neu phatrymau arbennig, neu rhywbeth ychydig yn wahanol.Cysylltwchi ddechrau trafod a gweld be fedrwni ei wneud!
Sut ddylwni ofalu am fy het?
Cadwch eich het mewn lle sych sydd ddim mewn golau llachar. Dylant gael eu cadw ar arwyneb fflat i gadw'r 'brim' yn syth (mae'nt hefyd yn edrych yn gret yn hongian ar y wal neu cefn y drws). Mae'r hetiau wedi eu gwneud o ffelt gwlan felly dylid osgoi eu gwisgo mewn glaw neu tywydd gwlyb.
Pa faint dyliwni ei brynu?
Gwnewch yn siwr eich bod yn mesur eich pen yn ofalus i gael y mesuriad cywir. Mae canllaw mesur ar y tudalennau cynyrch i helpu gyda hyn.
Ble mae'r hetiau yn cael eu gwneud?
Mae pob het yn cael eu gwneud yn fy ngweithdy yn Ne Cymru. Mae'r hetiau i gyd yn cael eu blocio gyda llaw cyn ychwanegu y darnau unigol fel y band a'r brodwaith.
Ble fedrai drio'r hetiau ymlaen?
Edrychwch allan amdanoni yn y marchnadoedd a ffeiriau celf. Mi fyddai'n rhoi unrhyw wybodaeth am hyn ar y dudalenInstagramaFacebook. Hefyd, cymerwch gip ar y dudalencysylltuam fwy o wybodaeth am ble mae cynyrch Madog yn cael eu stocio.