Cyfarfod y Cynllunydd
Erin ydw i, y cynllunydd tu ol i hetiau Madog. Cefais fy magu yng nghanol mynyddoedd Ffestiniog, ac erbyn hyn yn cynllunio a gwneud yr hetiau yn fy ngweithdy yng Nghaerdydd.
Gyda chefndir mewn cynllunio gwisgoedd a set ar gyfer cynhyrchiadau theatr, penderfynais arbenigo mewn penwisgoedd tra ar daith gyda sioe yn Llydaw. Datblygais y cynlluniau cyntaf tra'n byw yn Japan, ac yna yn 2017 cafodd Madog Millinery ei lawnsio.
Mae nifer o'r darnau wedi eu hysbrydoli gan wahanol deithiau, tirwedd y mynyddoedd a'r coedwigoedd, a gwylio'r sêr ar lan y môr. Maen't wedi eu gwneud ar gyfer y rhai sydd yn chwilio am antur.