Shop is closed for maternity leave and will re-open in summer 2024

FAQs

Ateb rhai o'ch cwestiynau am archebu gan Madog Millinery

Ydi'n bosib cael het wedi'w haddasu?

Dwi bob tro yn barod i drafod syniadau, boed hynny yn liwiau neu phatrymau arbennig, neu rhywbeth ychydig yn wahanol. Cysylltwch i ddechrau trafod a gweld be fedrwni ei wneud!

Sut ddylwni ofalu am fy het?

Cadwch eich het mewn lle sych sydd ddim mewn golau llachar. Dylant gael eu cadw ar arwyneb fflat i gadw'r 'brim' yn syth (mae'nt hefyd yn edrych yn gret yn hongian ar y wal neu cefn y drws). Mae'r hetiau wedi eu gwneud o ffelt gwlan felly dylid osgoi eu gwisgo mewn glaw neu tywydd gwlyb.

Pa faint dyliwni ei brynu?

Gwnewch yn siwr eich bod yn mesur eich pen yn ofalus i gael y mesuriad cywir. Mae canllaw mesur ar y tudalennau cynyrch i helpu gyda hyn.

Ble mae'r hetiau yn cael eu gwneud?

Mae pob het yn cael eu gwneud yn fy ngweithdy yn Ne Cymru. Mae'r hetiau i gyd yn cael eu blocio gyda llaw cyn ychwanegu y darnau unigol fel y band a'r brodwaith.

Ble fedrai drio'r hetiau ymlaen?

Edrychwch allan amdanoni yn y marchnadoedd a ffeiriau celf. Mi fyddai'n rhoi unrhyw wybodaeth am hyn ar y dudalen Instagram a Facebook. Hefyd, cymerwch gip ar y dudalen cysylltu am fwy o wybodaeth am ble mae cynyrch Madog yn cael eu stocio.

Gobeithio bod hyn yn helpu i ateb rhai o'ch cwestiynau. Os oes unrhywbeth arall hoffech wybod mae croeso i chi gysylltu.